Yn ddiweddar rydym wedi lansio cynllun graddedig newydd sbon ac yn awyddus i recriwtio unigolion proffesiynol lleol gyda lefel sgiliau uchel, o’r brifysgol.
Rydym yn awyddus i roi cyfleoedd i unigolion brwdfrydig sydd eisiau dechrau eu gyrfa broffesiynol ar ôl astudio.
Mae Kirstie Eckford yn Syrfêwr Datblygu yma yn Adra. Mae’n gweithio o fewn y tîm datblygu i adeiladu tai fforddiadwy i gyfarch yr angen tai yng ngogledd Cymru. Dywedodd:
“Rhoddodd Adra’r cyfle i mi weithio ac astudio gradd Syrfêwr Meintiau a gweithio ar yr un pryd.
“Rydw i bellach wedi cyflawni fy ngradd ym Mhrifysgol John Moore’s Lerpwl ac wedi graddio hefo Dosbarth Cyntaf.
Swyddi ar gael ar hyn o bryd
Felly ar hyn o bryd rydym yn chwilio am y canlynol:
Rydym yn chwilio am:
- Swyddog Cydymffurfio ag Asedau Graddedig
- Syrfëwr Datblygu Graddedig (Adeiladau Newydd)
- Crëwr Cynnwys Creadigol Digidol Graddedig
Ewch draw i’n gwefan am y manylion llawn