Site search button

Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd yma yn berthnasol i www.adra.co.uk a’r is-barth www.cymuned.adra.co.uk.

Adra Tai Cyf sy’n rhedeg y wefan hon.

Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan yma. Mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • wrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille:

  • ymholiadau@adra.co.uk
  • 0300 123 8084

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyfarwyddiadau.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan yma. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydyn ni’n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

  • ymholiadau@adra.co.uk
  • 0300 123 8084
  • ar-lein
Cookie Settings