Site search button

Ymweliad i Ysgol Foel y Gron Mynytho

Daeth gwmni WF Clayton Ltd sy’n gontractwr i ni i ysgol gynradd Foel y Gron, Mynytho i weld y disgyblion a rhoi cyflwyniad iddynt am eu gwaith adeiladu, iechyd a diogelwch ar safleoedd adeiladu yn ogystal â sôn am waith sy’n cael ei wneud yn yr ardal leol ganddynt ar ein rhan.

Roedd hyn yn  han o’n cynllun budd cymunedol a gwerth cymdeithasol sy’n bwysig iawn i ni’n Adra. Fel darparwyr tai fforddiadwy a chymdeithasol, rydym eisiau gwneud gwahaniaeth positif i bobl a’u cymunedau. Rydym yn cael ein gyrru gan werth cymdeithasol drwy bob cyfle tendro er mwyn i ni allu rhoi yn ôl i’n tenantiaid a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Dywedodd Raymond Hughes, ein Swyddog Cyswllt yma yn Adra:

“Er gwaethaf y glaw aeth y weithgaredd yn dda. Roedd y disgyblion i weld yn mwynhau’r cyflwyniad a’r offer a roddodd y cwmni i’r ysgol fel rhodd.”

Rydym yn falch iawn ac yn gwerthfawrogi gweld un o’r contractwyr ydan ni’n gyflogi yn rhoi yn ôl i’r gymuned lleol.

 

Cookie Settings