Fe gafodd Diwrnod Amgylcheddol ei gynnal ar stad Peblig yng Nghaernarfon wythnos diwethaf.
Roedd hyn yn rhoi cyfle i’n cwsmeriaid ddod â’u gwastraff i sgipiau a oedd wedi’u lleoli ar draws y stad.
Y bwriad oedd hybu ailgylchu a chodi balchder yn y cymunedau mae ein tenantiaid yn byw a lleihau tipio anghyfreithlon.
Roeddem yn hynod o falch o gael cydweithio gyda thîm ailgylchu Cyngor Gwynedd, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a Gwasanaeth Prawf.
Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Prosiectau Cymunedol Adra: “Diolch yn fawr iawn i’n holl bartneriaid am wneud i’r digwyddiad yma weithio, a diolch i’n holl denantiaid a ddaeth i gymryd rhan.”
“Mae hi mor braf gweld balchder cymunedol a phawb yn dod at ei gilydd i edrych ar ôl eu cymunedau.”
Fe gafodd wyth sgip ei lenwi ac roedd angen sawl trip i’r ganolfan ailgylchu gyda faniau’r Cyngor.