Ddoe bu digwyddiad teuluol yn Nhŷ Gwyrddfai, hwb datgarboneiddio Adra ym Mhenygroes. Roedd yn gyfle i’n tenantiaid lleol ymweld â’r safle i weld y datblygiadau a thrawsnewid sydd wedi digwydd yno. Bu nifer yn ei gofio fel Kruger neu Northwood Hygine dros y blynyddoedd. Mae’r adeilad wedi bod yn gyflogwr mawr yn yr ardal ac roedd yn braf dangos yr adeilad ar ei newydd wedd i drigolion yr ardal.
Roedd digon o weithgareddau i blant ar bnawn gwlyb yn ystod hanner tymor gan gynnwys paentio wyneb, lliwio, adeiladu a gweithdy ffelt. Pwyslais y gweithdy ffelt oedd rhoi bywyd newydd i gynnyrch gwastraff, sef gwlân ac roedd hyn yn gweddu gydag amcanion net sero Tŷ Gwyrddfai.
Roedd y digwyddiad yma wedi cael ei ariannu gan brosiect REACH drwy Y Brifysgol Agored Cymru.