Roedd hi’n Wythnos Prentisiaethau Cymru ar 08 Chwefror 2021 ac rydan ni wedi lansio ein academi newydd. Gyda’r nod o gefnogi mwy na 60 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gyfleoedd gwaith ar draws gogledd Cymru erbyn 2022.
Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac ehangu opsiynau cyflogadwyedd drwy
- brentisiaethau
- lleoliadau gwaith
- lleoliadau graddedig
- Cynlluniau hyfforddi
Rydym yn dechrau ein dau leoliad mis yma fel rhan o’r Cynllun Kickstart cenedlaethol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn risg o fod yn ddi-waith yn hirdymor.
Rydym yn cyflwyno cyfleoedd i’w cwsmeriaid drwy’r gwasanaethau y maen nhw’n rhedeg, buddsoddiad uchelgeisiol a’u rhaglen ddatblygu. Mae’r ddau leoliad gwaith cyntaf yn cynnwys datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmer o fewn ein Canolfan Alwadau.
Gweithio gyda partneriaid
Wrth weithio hefo partneriaid drwy bartneriaeth Clarion Housing a thrwy’r cynllun Kickstart, bydd lleoliadau gwaith yr ydym yn eu cynnig yn:
- datblygu sgiliau trosglwyddadwy i bobl
- ar gyfer siaradwyr Cymraeg a fydd yn eu cynorthwyo i gynyddu eu cyflogadwyedd a darparu profiad gwaith gwerthfawr,
Y nod yw cynorthwyo pobl sy’n cymryd rhan i ddatblygu tuag at gyflogaeth tymor hir hefo ni Adra, a chyflogwyr eraill o fewn yr ardal.
Fel rhan o’n ymrwymiad i greu cyfleoedd i’w cwsmeriaid, rydym wedi cyflogi pedwar prentis newydd, un trydanol, un plymiwr, a dau beintiwr ac addurnwr o fewn eu tîm Trwsio. Gan ychwanegu at y nifer o brentisiaid sy’n gweithio o fewn eu rhaglen rheoli asedau a’u safleoedd adeiladu. Mae hyn oll yn rhan o’n prosiect sgiliau a chyflogadwyedd, Academi Adra.
Rydym hefyd wedi datblygu rhaglen hyfforddai tai. Maen nhw am fod yn recriwtio dau hyfforddai arall yn ystod yr wythnosau nesaf i ddysgu am reoli tai, gofal cwsmeriaid a chefnogi tenantiaid i gadw eu tenantiaeth. Byddwn hefyd yn cynnig pedwar cyfle am leoliad gwaith graddedig yn ystod 2021/22.
Mae Caleb Khan yn astudio ar gyfer Lefel 2 City & Guilds, Diploma NVQ mewn Gorffeniadau Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu) gyda Grŵp Llandrillo Menai. Wrth astudio’r cwrs yma mae’n cael hyfforddiant ymarferol wrth weithio fel prentis hefo ni.
Dywedodd Caleb o Gaernarfon: “Mae Adra wedi rhoi cyfle gwych i fi ddatblygu fy sgiliau fel prentis, gweithio hefo addurnwr a pheintiwr profiadol yn nhai Adra. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfle yma yn fawr a hoffwn ddiolch i Adra am eu cefnogaeth.”
Mwy o wybodaeth
Am fwy o fanylion gwaith gan gynnwys lleoliadau gwaith, rhaglenni hyfforddi a phrentisiaethau, cysylltwch hefo Elin Williams yma yn Adra os gwelwch yn dda drwy ffonio 0300 1238084 neu e-bostio: elin.willams@adra.co.uk
Neu cwblhewch y ffurflen yma