Rydym yn falch iawn o weld un o’r contractwyr ydan ni’n gyflogi yn rhoi yn ôl i’r gymuned lleol.
Mae un o’n contractwyr sef GHJames wedi cyfrannu £300 tuag at fanc bwyd yn ne Gwynedd, Abermaw yr wythnos hon fel rhan o’n cynllun budd cymunedol a gwerth cymdeithasol. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am gyfrannu yn ôl i’n cymunedau lleol.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Cymunedau a Phartneriaeth yn Adra:
“Mae’r banciau bwyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein tenantiaid yn ystod y pandemig, mae nifer o bobl yn ddibynnol ar gael bwyd o banciau bwyd, dyna ydi’r sefyllfa sydd ohoni gyda diweithdra ar ei lefel uchaf yng Nghymru bellach ac felly rydym yn meddwl ei bod yn holl bwysig ein bod ni a’n contractwyr yn rhoi rhywbeth yn ôl i gefnogi ein tenantiaid a’n cymunedau pan gallwn wneud hynny.
“Rydym eisiau cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr y Banciau Bwyd, fysan nhw ddim yn gallu cael eu rhedeg heb gefnogaeth y gwirfoddolwyr.”
Fel darparwyr tai fforddiadwy a chymdeithasol, rydym eisiau gwneud gwahaniaeth positif i bobl a’u cymunedau. Rydym yn cael ein gyrru gan werth cymdeithasol drwy bob cyfle tendro er mwyn i ni allu rhoi yn ôl i’n tenantiaid a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Am fwy o wybodaeth am eich banciau bwyd lleol, ewch i: www.trusseltrust.org neu ffoniwch 0808 208 2138 – edrychwch hefyd ar wefan eich Cyngor Sir neu ffoniwch eich Cyngor Sir am fwy o wybodaeth.