Rydym mor falch fod ein gwasanaeth Aros Adra yn ei ôl yn dilyn y cyfnod clo.
Erbyn hyn rydym yn cynnig y gwasanaeth llawn yn ardal Dwyfor a Meirionnydd, sef:
- mynd am dro
- mynd i apwyntiadau
- siopa ar ran cwsmeriaid
- glanhau
- cefnogaeth gyda gwaith papur
Mae Julie yn un cwsmer sydd wrth ei bodd fod y gwasnaeth wedi gallu ail gychwyn. Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd iddi a mai wedi methu cael mynd allan am ginio a chael sgwrs.
Wythnos yma cafodd Julie ymweliad i’r ganolfan arddio lleol a mae’n edrych ymlaen i gael mwy o ymweliadau dros yr Haf.
Bydd y gwasanaeth yn cyflogi mwy o bobl yn y dyfodol agos, wedyn bydd modd derbyn mwy o gwsmeriaid.
Ewch draw i’n gwefan os hoffech fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth Aros Adra.