Rydym wedi cael gymaint o geisidau eleni.
Un peth da sydd wedi dod i’r flwyddyn a hanner eitha rhyfedd ddiwethaf ydy gweld ysbryd cymunedol anhygoel o fewn ein cymunedau ni.
Mae’n fraint cyflwyno mwy o’n sêr cymunedol i chi…
Donna Edwards
Yn ystod y cyfnod clo, trefnodd Donna becynnau hwyl i deuluoedd ym Maesgeirchen, Bangor, er mwyn codi ysbryd a gwella lles ymysg plant a’u rhieni.
Trefnodd Donna’r cynnwys ar gyfer y 320 o becynnau gan gynnwys y pacio a’r dosbarthu gan dîm o wirfoddolwyr. Roedd y pecynnau yn cynnwys:
- teganau
- gemau
- offer celf
- danteithion
Roedd hyn i gyd wedi ariannu gan grantiau. Diolch Donna, mae cymaint o deuluoedd wedi cael budd o dy syniad a dy waith gwirfoddol.
Peter Whitby
Mae Peter wedi bod ynghlwm a nifer fawr o weithgareddau a phrosiectau gwirfoddol sydd wedi buddio trigolion ym Maesgeirchen a Tan Y Bryn, Bangor dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bu yn rhan o’r criw gwirfoddol yn pacio a dosbarthu bagiau ffrwythau a llysiau ar gyfer y co-op trigolion. Cymerodd ran mewn nifer o weithgareddau gwyrdd a garddio cymunedol – gan gynnwys plannu coed dolig. Roedd hefyd yn darparu gwasanaeth garddio cymunedol i’r rhai oedd yn methu gwneud dros eu hunain. Diolch i waith Peter roedd nifer yn gallu mwynhau eu gerddi yn ystod y cyfnod clo.
Mae hefyd wedi creu a threfnu gweithgareddau a phrosiectau hwyliog i blant i hyrwyddo ynni cynaliadwy.
Mae ei waith yn parhau i helpu gwella iechyd a lles trigolion a hefyd yr amgylchedd lleol.
Eirian a Steffie Williams Roberts
Mae Eirian a Steffie wedi sefydlu Grŵp Celfyddydau Perfformio, ‘MaesG Showzone’ ar gyfer pobl ifanc ym Mangor yn ystod y cyfnod clo.
Mae’r grŵp wedi darparu gweithgareddau rheolaidd i bobl ifanc yn ystod y pandemig, i’w cadw yn actif ag hefyd cynnal eu hiechyd a lles. Mae wedi rhoi rhywbeth i nifer o bobl ifanc Maes G ganolbwyntio arno yn ystod y cyfnod clod. Mae nifer mor ddiolchgar i chi am eich gwaith.
Nigel a Vicky Pickavance
Mae Nigel a Vicky wedi gwirfoddoli gyda’r “Soup Squad” yn ystod y flwyddyn – gan baratoi a dosbarthu prydau parod i’r henoed a’r trigolion oedd yn cysgodi ynghyd â sicrhau bod gan drigolion hŷn hanfodion yn ystod y cyfnod“panic buying” yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Roeddent hefyd yn rhan o amryw o brosiectau cymunedol eraill ym Maesgeirchen yn ystod y flwyddyn a helpodd i godi ysbryd a gwella lles yn ystod cyfnod anodd iawn. Roedd y rhain yn cynnwys:
- datblygu ac uwchraddio’r parc chwarae
- agoriad swyddogol y parc chwarae
- amrywiol weithgareddau Nadolig
- prosiect i oleuo’r eglwys leol.
Diolch i chi’ch dau am eich cyfraniad gwerthfawr iawn i’r gymuned leol.
Dylan Fernley
Mae Dylan wedi chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech wirfoddoli yn ei gymuned ym Mangor dros y flwyddyn ddiwethaf, gan drefnu taliadau cymorth tanwydd, presgripsiynau a bwyd i drigolion oedd yn dioddef yn ariannol yn ystod y pandemig.
Mae wedi casglu rhoddion bwyd Fareshare bob nos o archfarchnadoedd i helpu’r tîm yn Nhŷ Penrhyn i baratoi prydau parod ar gyfer unigolion a theuluoedd bregus ym Mangor ac wedi helpu i ddosbarthu bocsys bwyd i drigolion oedd eu hangen yn ystod y cyfnodau clo.
Denise Spence, Beth Hughes a Tony Roberts
Mae Denise, Tony a Beth wedi gwirfoddoli yn rheolaidd yn eu cymuned trwy gydol y pandemig.
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe wnaethant droi Caffi Hive yn y Soup Squad. Roeddent yn siopa am fwyd a pharatoi a dosbarthu prydau parod i 84 o bobl hyn a thrigolion oedd yn cysgodi, bob dydd Mawrth.
Tŷ Penrhyn, Bangor – Bradley Morgan, James Verselys, Scott Patey a David Lynes
Mae Tŷ Penrhyn wedi bod yn hwb ar gyfer ymdrech enfawr i gefnogi trigolion Bangor trwy’r pandemig a hyd yma wedi helpu i ddarparu dros 12,000 o brydau wedi rhewi a dros 50,000 tunnell o fwyd sych ac yn parhau i gefnogi dros 90 o deuluoedd ag unigolion yn wythnosol.
Mae’r gwirfoddolwyr – Bradley, James, Scott a David wedi bod wrthi yn helpu gyda:
- siopa
- paratoi
- pacio
- cludo bwyd parod
- cludo bocsys bwyd i unigolion a theuluoedd ar draws Bangor.
Yn ystod mis cyntaf y cyfnod clo, bu’n gweithio shifftiau o 12 awr, 7 diwrnod yn wythnos, oedd yn ymdrech arwrol yn helpu eu cymuned pan oedd wir ei angen. Diolch i chi gyd.