Site search button

Plannu bach o liw yng ngerddi cymunedol Llys Dewi Sant

Wel dyma ni yng nghanol yr Haf. Felly mae ein tenantiaid yn Llys Dewi Sant, Bangor, Charlotte o’n Tím Cymunedol a Kath ein Swyddog Tai Cefnogol
wedi dod at eu gilydd i ddod a rhywfaint o fywyd i’r gerddi cymunedol yn Llys Dewi Sant.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn yn ystod y cyfnodau clo a mae pawb wedi methu cael sgwrs a gweld eu gilydd wyneb yn wyneb.
Felly roedd plannu blodau i’r ardd gymunedol yn gyfle perffaith i bawb ddod allan i gymdeithasu.

Cafodd y criw dywydd perffaith ac amser gwych yn plannu, mae’n syndod sut mae rhwyfaint o flodau yn gallu trawsnewid rhywle. Roedd hi’n wych gweld cymaint o denantiaid allan yn mwynhau’r haul a chael cyfle am sgwrs.

Gall y mwyafrif o’n tenantiaid weld yr ardd gymunedol o’u cartrefi, felly gobeithio y byddent yn dod a gwen i’ch wynebau dros yr wythnosau nesaf.

Diolch i bawb a gymerodd rhan.

Cookie Settings