Roedd Mr Ronald Hughes wedi byw yn Chwilog, Pen Llŷn ers yr 1980au. Mae bellach wedi symud yn ôl i’w gymuned leol, Chwilog a lle mae’n galw adref ar ôl byw yn Sir Ddinbych am gyfnod byr.
Symudodd Ronald Hughes o Chwilog ar ôl byw yno am 35 mlynedd. Aeth i fyw i Sir Ddinbych yn 2017 oherwydd bod ganddo deulu yno ar ôl dioddef colled bersonol.
Dywedodd Mr Ronald Hughes, cwsmer Adra:
“Roeddwn i’n rhentu llety preifat yn Sir Ddinbych ar ôl symud yno yn 2017. Fe gafodd yr adeilad lifogydd, roedd yn brofiad anodd. Yna tarodd y pandemig, ac roeddwn i’n eithaf unig yno. Roeddwn i eisiau dychwelyd i’r lle rwy’n ei alw’n adra sef, Chwilog.
“Roeddwn i mor falch pan gysylltodd fy llysferch hefo Adra ac yn falch iawn o glywed eu bod nhw’n gallu helpu. Mae Adra a’u tîm gosod wedi fy helpu’n fawr ac rwyf mor ddiolchgar eu bod wedi dod o hyd i’r cartref hwn i mi symud iddo a’m bod wedi cael dychwelyd i’m cymuned leol.
“Un o fy hoff ddiddordebau yw garddio. Dwi’n gallu garddio yn yr ardd yma yn fy nghartref rwan a dwi wrth fy modd. Dim ond ychydig o gamau i ffwrdd mae’r cigydd, y siop leol a’r dafarn felly rwy’n falch iawn ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth.”
Dywedodd Ms Susan Roberts, llysferch Mr Ronald Hughes:
“Diolch yn fawr i Angela o’r tîm gosod am ei holl help a’i chefnogaeth. Mae wedi troi amgylchiad anffodus yn brofiad pleserus bron. Rwy’n gobeithio y bydd fy llysdad yn hapus yn ei gartref newydd sy’n fwy addas iddo ac yn agos at deulu a ffrindiau ei genhedlaeth ei hun.
“Hoffwn longyfarch eich tîm ar broses drefnus, wedi’i chwblhau mewn cyfnod anodd gyda thosturi, agweddau proffesiynol a pharodrwydd i ddatrys pethau’n brydlon. Fy niolch diffuant, a’m llystad hefyd.”
Dywedodd Angela Thompson, Swyddog Gosod Tai Adra:
“Rwyf mor falch ein bod wedi gallu helpu Mr Hughes i ddod o hyd i gartref addas i gyfarch ei anghenion a’i fod yn hapus i fod wedi dychwelyd i’w gymuned leol. Mae mor braf pan mae pobl yn dangos eu bod yn hapus ac yn fodlon hefo’r gwasanaeth rydym yn ddarparu. Diolch i’r ddau am eu sylwadau.”