
Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?
- Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi gyda’r nod o wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiaid i rhentu cartrefi yng Nghymru. Mae’n cyflwyno nifer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sector rhent cymdeithasol a phreifat.
 
Pryd fydd yn digwydd?
- Bydd hyn yn digwydd o 15 Gorffenaf 2022 ymlaen
 
Beth yw pwrpas y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?
- Symleiddo cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhentu Cymru
 - Cynnig fwy o ddiogwelwch a sicrwydd i denantiad ac landlordiaid
 
Pwy fydd hyn yn effeithio?
- Pob landlord – preifat a chymdeithasol
 - Pob tenant – preifat a chymdeithasol
 
Pam fod hyn yn ddigwydd?
- I wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiad i rentu cartrefi yn Nghymru.
 
Beth sydd yn newid?
- Termonoleg newydd e.e. Tenantiaeth fel Contract Meddiannaeth â Tenant yn cael eu adnabod fel Deiliad Contract.
 - Contract Meddiannaeth yn cymrud lle Cytundeb Tenantiaeth.
 
- Mwy o sicrwydd – 6 mis o rybudd ar yr amod nad yw’r contract yn cael ei dorri.
 - Rhaid bob cartref fod yn ddiogel – er engraifft larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydanol.
 - Dulliau teg a chyson i ymddygiad gwrth gymdeithasol.
 - Mwy o hawliau olyniaeth i basio eich cartref ymlaen
 - Deiliad Contract yn gallu cael ei ychwanegu neu dynnu heb gorfod dod â contract i ben.
 
- Landlordiad yn gallu adfeddiannu eiddo sydd wedi ei adael heb orchymun llys.
 
Beth mae hyn yn ei olygu i mi fel tenant?
- Symleiddo a gwella hawliau chi fel tenant
 - Gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi yng Nghymru.
 
Sut fydd y Ddeddf yn effeithio arna i?
- Bydd tenanitiad presennol yn derbyn contact o fewn 6 mis o 15 o Gorffennaf, fydd yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth.
 - Bydd tenantiaid newydd o 15 Gorffennaf yn arwyddo contract yn y ffordd arferol ac o fewn 14 diwrnod.
 - Y contract yn cynnig fwy o ddiogelwch a sicrwydd i chi.
 
Ydi cydymffurfio hefo’r ddeddf yma yn mynd i gostio arian i mi neu effeithio ar fy rhent?
- Na, ni fydd y Ddeddf yma yn effeithio ar eich rhent nac yn costio dim i chi.
 
Fydda i angen gwneud unrhyw beth?
- Yr unig beth fyddwch angen gwneud yw darllen eich contact a chyfarwyddro eich hunain ar eich hawliau a cyfrifoldebau.