Site search button

Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 – AM DDIM eleni

Mae gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop, Eisteddfod yr Urdd, yn dod i gyrion tref Dinbych rhwng 30 Mai a 4 Mehefin, a gyda mynediad i’r ŵyl am ddim eleni, mae croeso i bawb!

Mae’r ŵyl yn denu dros 65,000 o gystadleuwyr a 100,000 o ymwelwyr o bob cwr o Gymru yn flynyddol.

Dyma ddiwrnod gwych i’r holl deulu fwynhau – Chwaraeon, sioeau, cerddoriaeth, celfyddydau, bwyd a diod a llawer iawn mwy. Dewch i ymuno yn yr hwyl!

I ddathlu pen-blwydd arbennig yr Urdd yn 100 oed eleni bydd gŵyl o fewn gŵyl yn cael ei chynnal ar y maes ar 2, 3 a 4 Mehefin. Bydd Gŵyl Triban yn dathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru. Gyda bandiau, bar, bwyd a llawer iawn mwy. Mae mynediad i’r ŵyl hefyd am ddim!

Tocynnau ar gael yma: urdd.cymru/tocynnau

Cookie Settings