O’r 6 Mehefin byddem yn gneud gwaith i wirio diogelwch Drysau Tân mewn nifer o’n eiddo
Mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni, ac mae angen i ni sicrhau bod eich drws ffrynt yn ddiogel ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch tân cyfredol.
Mae’n ofyniad cyfreithiol o dan Gorchymyn (Diogelwch Tân) Diwygio Rheoleiddio 2005 ei bod ni’n gwirio bod eich drws yn gweithio’n iawn ac mewn cyflwr da.
Bydd un o’n staff yn galw draw i’ch cartref i wneud hyn a byddwn yn anfon atoch lythyr hefo apwyntiad.
Dyma rai atebion i gwestiynau allai fod gennych:
Pryd cawn wybod o apwyntiadau? | Bydd llythyrau yn cynnig apwyntiadauyn caeu eu hanfon o 6 Mehefin ymlaen. |
Pa waith fydd yn cael ei wneud? | Byddem yn cynnal arolwg o tua 2000 o ddrysau i sicrhau fod y rhannau mewnol ac allanol pob drws yn gweithio yn iawn, ac yn cwrdd â’r safonau diogelwch tân anghenrheidiol. |
Rwy’n byw mewn tŷ – fyddech chi’n gwirio fy nrws i? | Dim ond drysau tân mewn fflatiau a drysau I gypyrddau gwasanaeth mewn ardaloedd sy’n cael eu rhannu, o fewn adeiladau, fyddem ni yn gwirio a gweithredu arnynt. |
Be fydd y camau nesaf? | Os ydi’r archwiliad yn iawn, ni fyddwch yn cael ymweliad pellach tan flwyddyn nesaf. Os ydi’r archwiliad yn anfoddhaol bydd un o ddau beth yn digwydd:
|
Be ydi’r rheoliadau gwahanol i ddrysau tân? | Achos fod drysau tân yn eitemau gweithredol, ac yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau ac adeiladwaith, mae pob drws tân angen cwrdd â nifer o reoliadau gwahanol fel ar gyfer sŵn, hygyrchedd, awyru, effeithiolrwydd gwres a gwydr diogelwch yn ogystal â diogelwch tân. |