Site search button

Agor parc chwarae cymunedol

Trefnom agoriad swyddogol parc chwarae yn Nol Gele ar y cyd hefo Anwyl er mwyn croesawu’r gymuned leol a phlant i’r parc chwarae.  

 Daeth tua 30 o blant yn barod i chwarae. Cafodd helfa drysor wyau Pasg ei gynnal i’r plant, roedd cacenni bach a bybls ar gael i ddenu plant sy’n byw yn y gymuned o dai fforddiadwy o safon leol, i’r parc.  

 Cynhaliwyd cystadleuaeth enwi’r parc hefyd ac rydym wedi derbyn 13 o syniadau ac yn edrych ymlaen at ddewis yr enillydd. 

Dywedodd Ceri Ann Owen, Swyddog Tai Fforddiadwy Adra yn yr ardal a gafodd y syniad i greu’r digwyddiad.  

 “Y syniad tu ôl i’r digwyddiad oedd dod a’n tenantiaid at ei gilydd a hefyd i ddathlu fod y parc wedi agor gan fod rhai wedi bod yn byw yno ers tro ond ddim wedi gallu defnyddio’r parc gan ei fod wedi cau cyn nawr. Gwych gallu dod a’r gymuned leol at ei gilydd.”  

Dywedodd Sion Eifion, Swyddog Prosiectau Cymunedol Adra: 

“Roedd hi’n grêt gweld cymuned newydd yn ffynnu wrth ddathlu agoriad swyddogol y parc yn Nol Gele. Fel cwmni, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i gefnogi unigolion a chymunedau ar draws gogledd Cymru felly goebithio y bydd yna gyfleoedd pellach i gael digwyddiadau cymunedol o’r fath yn y dyfodol.“ 

Dywedodd Finn, hogyn 11 oed lleol sy’n byw yn y gymuned ei fod yn mwynhau dod i chwarae i’r parc i gwrdd hefo’i ffrindiau ac mai’r siglen ydi ei hoff beth am y parc.  

Dywedodd Sulaiman, preswylydd sy’n byw yn y gymuned leol ac yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd tra mae ei wraig yn gweithio’n Ysbyty Glan Clwyd: 

“Diolch Adra am drefnu’r diwrnod, mae yn fy ngwneud i’n hapus gweld fy merch ieuengaf yn chwarae, yn gwenu ac yn chwerthin mewn amgylchedd ddiogel fel y parc yma neu fel arall byddai rhaid teithio i barc arall.”  

Dywedodd Phil Dolan, rheolwr gyfarwyddwr Anwyl Homes Cheshire a Gogledd Cymru:

“Rydym wrth ein bodd bod y man chwarae hamdden newydd yn Nol Gele bellach ar agor i’r cyhoedd. Mae ardaloedd chwarae newydd a mannau gwyrdd hygyrch wrth wraidd cymunedau newydd ac maent yn rhan bwysig o’r dull meddylgar a ddefnyddiwn i gynllunio ein datblygiadau newydd. Mae gwybod y gall plant a phobl ifanc fwynhau manteision y cyfleusterau newydd hyn am flynyddoedd lawer i ddod yn hynod foddhaol i dîm cyfan Anwyl.” 

Cookie Settings