Site search button

“Ardal Ni 2035” – cyfle i bobl Gwynedd siapio dyfodol eu milltir sgwâr 

‘Beth sy’n dda am eich ardal leol?’; ‘Beth sydd ddim mor dda?’; ‘Beth sydd angen newid er mwyn gwneud eich ardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035?’. 

 Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar drigolion y sir – o Ben Llŷn i Benllyn ac o Aberdyfi i Abergwyngregyn – i lenwi holiadur “Ardal Ni 2035” er mwyn canfod atebion i’r cwestiynau allweddol yma. 

 Ymarferiad ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar gymunedau unigol o fewn y sir yw “Ardal Ni 2035” sy’n holi barn pobl Gwynedd am ddyfodol eu hardal leol. Gall pobl Gwynedd lenwi’r holiadur: 

  • ar-lein drwy ymweld â gwefan https://dweudeichdweud.gwynedd.llyw.cymru/  a dewis eu cymuned lleol o’r ddewislen; 
  • drwy geisio copi papur o’r llyfrgell neu Siop Gwynedd lleol; 
  • drwy ffonio Galw Gwynedd (01766 771 000) i ofyn am gopi papur drwy’r post. 

 Bydd yr holl ymatebion yn siapio’r gwaith o flaenoriaethu a datblygu 13 cynllun adfywio lleol unigryw ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 15 mlynedd nesaf. Y cam nesaf wedyn fydd cydweithio a chyd-ddatblygu datrysiadau gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion. 

 Yn ogystal â chlywed barn pobl leol am beth y dylai blaenoriaethau adfywio fod ar gyfer eu hardaloedd, mae holiadur byr hefyd ar agor i’w lenwi ar wefan dweudeichdweud.gwynedd.llyw.cymru sy’n holi am anghenion tai pobl leol. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor wrth baratoi cynlluniau tai mewn cymunedau yn y sir. 

  

 

 

Cookie Settings