Site search button

Arhoswch yn ddiogel ar Noson Tân Gwyllt

Pink and gold fireworks exploding in the sky

Mae Tachwedd 5ed yn prysur agosáu, felly hoffwn gymryd y cyfle hwn i atgoffa pawb sut i aros yn ddiogel a chael hwyl ar Noson Tân Gwyllt. 

Mynychu coelcerth a thân gwyllt sydd wedi’u trefnu yw’r ffordd fwyaf diogel bob amser o ddathlu Noson Tân Gwyllt, gan fod mannau diogel i wylio’r arddangosfeydd, mae’r tân gwyllt yn cael eu cynnau gan bobl hyfforddedig ac mae’r gwasanaethau brys gerllaw os oes angen. 

Os ydych chi’n bwriadu cael arddangosfa eich hun gartref, mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru awgrymiadau diogelwch tân gwyllt pwysig ar eu gwefan. 

Dilynwch y cod tân gwyllt bob amser: 

  • Ni ddylid gwerthu tân gwyllt i unrhyw un dan 18 oed 
  • Prynwch dân gwyllt gyda marc CE arnynt yn unig 
  • Cadwch dân gwyllt mewn bocs metel caeedig  
  • Goruchwyliwch blant a phobl ifanc bob amser 
  • Peidiwch ag yfed alcohol wrth danio tân gwyllt 
  • Cadwch fflamau noeth, yn cynnwys sigaréts, ymhell o dân gwyllt 
  • Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer pob un o’r  tân gwyllt a defnyddiwch dortsh os oes raid 
  • Cyfeiriwch dân gwyllt awyrol ymhell o gyfeiriad tai a phobl ac ystyriwch goed gerllaw a chyfeiriad y gwynt 
  • Cadwch fwced o ddŵr neu bibell ddŵr gerllaw  
  • Taniwch nhw hyd braich gyda thapr 
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt – hyd yn oed os nad ydi o wedi gweithio fe all ffrwydro  
  • Peidiwch â thanio tân gwyllt swnllyd ar ôl 11pm. 
Cookie Settings