Mae hi’n oer iawn wythnos yma a mwy o rhew ag eira ar ei ffordd. Ydych chi’n barod am y twydd garw?
Mae’n hanfodol cadw’n gynnes yn y gaeaf ac mae rhai pethau syml y gallwch chi eu gwneud i gadw’n gynnes ac aros yn iach.
Yn ystod y dydd
- Yn ddelfrydol, gosodwch eich thermostat ar tua 21°C a chynheswch yr holl ystafelloedd a ddefnyddiwch yn ystod y dydd
- Os na allwch gynhesu eich holl ystafelloedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich ystafell fyw yn gynnes trwy gydol y dydd a chynheswch eich ystafell wely cyn mynd i’r gwely
- Gosodwch yr amserydd ar eich gwres i ddod ymlaen cyn i chi godi a diffoddwch pan ewch i’r gwely
- Mewn tywydd oer iawn, yn hytrach na throi’r thermostat i fyny, gosodwch y gwres i ddod ymlaen ynghynt fel na fyddwch yn oer tra byddwch yn aros i’ch cartref gynhesu
Yn ystod y nos
- Ceisiwch gadw tymheredd o gwmpas 18°C yn eich ystafell wely dros nos
- Os ydych chi’n defnyddio gwresogydd yn eich ystafell wely yn ystod y gaeaf, agorwch y ffenestr neu’r drws ychydig ar gyfer awyru
- Bydd blanced drydan neu botel dŵr poeth yn eich helpu i gadw’n gynnes ond peidiwch byth â’u defnyddio gyda’ch gilydd gan y gallech chi drydanu eich hun
- Os oes gennych flanced drydan, gwiriwch pa fath ydi – mae rhai wedi’u cynllunio i gynhesu’r gwely cyn i chi fynd i mewn iddo yn unig ac ni ddylid eu defnyddio trwy gydol y nos. Os ydych chi’n defnyddio blanced drydan, gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel i’w defnyddio trwy gael prawf arni bob dwy flynedd.
Gwisgwch yn ddoeth
- Gwisgwch got, het, sgarff, menig ac esgidiau cynnes pan fyddwch yn mynd allan
- Gwisgwch ddillad o wlân, cotwm neu cnu synthetig
- Arhoswch yn gynnes yn y gwely gyda sanau gwely, dillad isaf thermol a chap nos
- Y peth symlaf y gellir ei wneud i gynhesu yw gwisgo het
Lleihau eich biliau ynni
- Caewch ddrysau allanol a chaewch y llenni yn y nos
- Berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig yn hytrach na llenwi’r tegell yn gyfan gwbl
- Gadewch i fwyd oeri i dymheredd ystafell cyn ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell
- Peidiwch â gadael offer fel setiau teledu ar ‘standby’ gan eu bod yn dal i ddefnyddio trydan
Os yw’r system gwresogi yn eich cartref fi wedi torri, cysylltwch â ni
- 0300 123 8084
- ymholiadau@adra.co.uk