Site search button

Barod am y tywydd oer?

Eryri eira

Mae hi’n oer iawn wythnos yma a mwy o rhew ag eira ar ei ffordd. Ydych chi’n barod am y twydd garw?

Mae’n hanfodol cadw’n gynnes yn y gaeaf ac mae rhai pethau syml y gallwch chi eu gwneud i gadw’n gynnes ac aros yn iach.

Yn ystod y dydd

  •  Yn ddelfrydol, gosodwch eich thermostat ar tua 21°C a chynheswch yr holl ystafelloedd a ddefnyddiwch yn ystod y dydd
  • Os na allwch gynhesu eich holl ystafelloedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich ystafell fyw yn gynnes trwy gydol y dydd a chynheswch eich ystafell wely cyn mynd i’r gwely
  • Gosodwch yr amserydd ar eich gwres i ddod ymlaen cyn i chi godi a diffoddwch pan ewch i’r gwely
  • Mewn tywydd oer iawn, yn hytrach na throi’r thermostat i fyny, gosodwch y gwres i ddod ymlaen ynghynt fel na fyddwch yn oer tra byddwch yn aros i’ch cartref gynhesu

Yn ystod y nos

  • Ceisiwch gadw tymheredd o gwmpas 18°C yn eich ystafell wely dros nos
  • Os ydych chi’n defnyddio gwresogydd yn eich ystafell wely yn ystod y gaeaf, agorwch y ffenestr neu’r drws ychydig ar gyfer awyru
  • Bydd blanced drydan neu botel dŵr poeth yn eich helpu i gadw’n gynnes ond peidiwch byth â’u defnyddio gyda’ch gilydd gan y gallech chi drydanu eich hun
  • Os oes gennych flanced drydan, gwiriwch pa fath ydi – mae rhai wedi’u cynllunio i gynhesu’r gwely cyn i chi fynd i mewn iddo yn unig ac ni ddylid eu defnyddio trwy gydol y nos. Os ydych chi’n defnyddio blanced drydan, gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel i’w defnyddio trwy gael prawf arni bob dwy flynedd.

Gwisgwch yn ddoeth

  • Gwisgwch got, het, sgarff, menig ac esgidiau cynnes pan fyddwch yn mynd allan
  • Gwisgwch ddillad o wlân, cotwm neu cnu synthetig
  • Arhoswch yn gynnes yn y gwely gyda sanau gwely, dillad isaf thermol a chap nos
  • Y peth symlaf y gellir ei wneud i gynhesu yw gwisgo het

Lleihau eich biliau ynni

  • Caewch ddrysau allanol a chaewch y llenni yn y nos
  • Berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig yn hytrach na llenwi’r tegell yn gyfan gwbl
  • Gadewch i fwyd oeri i dymheredd ystafell cyn ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell
  • Peidiwch â gadael offer fel setiau teledu ar ‘standby’ gan eu bod yn dal i ddefnyddio trydan

 

Os yw’r system gwresogi yn eich cartref fi wedi torri, cysylltwch â ni

  • 0300 123 8084
  • ymholiadau@adra.co.uk
Cookie Settings