Site search button

Blwyddyn llwyddiannus i’n Prentisiaid Tai

Mae blwyddyn wedi gwibio heibio ers ein Prentisiad Tai, Lauren a Jess ymuno hefo ni. 

Mae’r ddwy wedi cael profiad gwaith gyda sawl adran ar draws adrannau cwsmeriaid a chymunedau yn Adra. Mae’n golygu eu bod yn cael eu lleoli o fewn un gwasanaeth am chwech mis ar y tro, cyn symud ymlaen i’r nesaf.  Maent wedi bod yn rhan o’r timoedd, cael eu hyfforddi ac yna yn cyfrannu at y gwaith. 

Mae’r ddwy wedi bod yn gweithio’n galed i gwblhau cymhwyster proffesiynol mewn ‘Certificate in Housing (CIH) Lefel 2’, a maen bleser cael cadarnhau bod yn ddwy wedi ei gyflawni bellach. 

Bydd cyfle iddynt rŵan weithio tuag at cymhwyster Lefel 3.  

Dyma oedd gan Lauren a Jess, ein Prentisiaid Tai i ddweud am y cynllun penodol y maent wedi bod yn rhan ohono yma’n Adra. 

“Rwyf wedi mwynhau phob eiliad o weithio gyda’r adrannau gwahanol a cwblhau CIH lefel 2! Dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol gyda Adra”

“Rwyf wedi mwynhau’r profiadau a’r rolau ymarferol gwahanol rydw i wedi’u gwneud ”

Fe gafodd y cynllun Prentisiaid Tai yn ôl yn 2018 gan y Tîm Datblygu Busnes.

Mae’r cynllun Prentisiaeth Tai hwn yn cael eu plethu fewn â rhaglen cyflogaeth a sgiliau Adra, sef Academi Adra.  

Bwriad Academi Adra wrth ei lansio ym mis Mawrth 2021 oedd cefnogi mwy na 60 o bobl i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at  gyfleoedd gwaith ar draws gogledd Cymru erbyn 2022.  

Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac ehangu opsiynau cyflogadwyedd drwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, lleoliadau graddedig a chynlluniau hyfforddi. 

Mae cynllun Academi Adra wedi helpu 70 o bobl gogledd Cymru, yn denantiaid i ni rhai sydd ddim yn denantiaid i ni, i fanteisio ar hyfforddiant a phrofiad gwaith. Mae 29 wedi’u cefnogi gyda prentisiaethau, 31 i gael mynediad at hyfforddiant ac 8 gyda phrofiad gwaith cyflogedig. Mae 12 hefyd wedi’u cefnogi i mewn i waith gyda ni yma yn Adra neu ein contractwyr.   

 

Cookie Settings