Site search button

Bocsys Tê Bach i drigolion Hen Balas, Llanelwy

Heather with the afternoon tea boxes

Yn dilyn cwblhau gwaith adnewyddu draw yn Hen Balas, Llanelwy, fe wnaeth W.F.Claytons gyfrannu £250 tuag at focsys tê bach i’r tenantiaid, yn rhan o’i ymrwymiad gwerth cymdeithasol.

Fe brynwyd y bocsys tê prynhawn gan Age Cymru ym Montnewydd. Braf yw gallu cefnogi elusen leol, sydd yn gwneud cymaint dros ein tenantiaid.

Yn rhan o’r gwaith adnewyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gwaith canlynol wedi ei wneud:

Prif Adeilad

  • To llechi newydd
  • Atgyweirio ac ailadeiladu simneiau
  • Pwyntio gwaith maen, trwsio ac ailosod copaon
  • Atgyweiriadau’r cwteri
  • Atgyweiriadau ffenestri pren
  • Amnewid gwydr wedi’i rolio â llaw
  • Peintio ffenestri

Porthdy

  • To llechi newydd
  • Atgyweirio ac ailadeiladu simneiau
  • Pwyntio gwaith maen, atgyweirio ac amnewid
  • Atgyweiriadau ffenestri pren
  • Amnewid gwydr wedi’i rolio â llaw
  • Peintio ffenestri

Lluniau o denantiaid yr Hen Balas yn derbyn y bocsys tê bach.

Rydym wedi derbyn yr adborth canlynol am y gwaith sydd wedi’i wneud yn Hen Balas gan Shelly ar ran y tenantiaid:

“Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi gwybod i chi fod y tenantiaid a minnau’n hynod hapus gyda’r gwaith y mae Clayton’s wedi’i gwblhau yn ddiweddar. Er i’r gwaith gymryd llawer mwy o amser na’r disgwyl, roedd y gweithwyr Clayton’s bob amser yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi a’r tenantiaid am y gwaith ac unrhyw faterion/anhwylustod sydd i ddod. Roedd Dewi Thomas yn cyfarfod â mi o leiaf unwaith yr wythnos i roi diweddariadau ac yna yn ei dro roeddwn yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth i’r tenantiaid. Roedd eu cyfathrebu yn allweddol i sicrhau bod tenantiaid yn aros yn amyneddgar.

“Pan oedd gennym broblemau gyda’r maes parcio neu pan oedd digwyddiad pan oedd plant wedi dringo’r sgaffaldiau a thorri ffenestr tenant, nid oedd angen gofyn i Clayton’s helpu. Roeddent yn gwrtais a chymwynasgar iawn gyda’r tenantiaid ac rwyf i a’r tenantiaid yn wirioneddol ddiolchgar.

“Er ein bod yn falch iawn bod y sgaffaldiau wedi mynd a’r gwaith wedi’i gwblhau, roedden ni’n drist i weld Clayton’s yn mynd gan eu bod nhw wedi bod yn rhan fawr o fywyd yn Yr Hen Balas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae pobl yn gyflym iawn i gwyno pan fo gwasanaeth yn wael, ond roeddwn i’n meddwl ei bod yn bwysig rhoi gwybod ichi fod y gwasanaeth a gafodd y tenantiaid gan Clayton’s dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhagorol.”

Mae cyfanswm o 46 o fflatiau yn yr Hen Balas, sy’n darparu llety cefnogol i bobl dros 55 oed neu’n anabl.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn byw yn yr Hen Balas, dylent gofrestru eu diddordeb trwy Gofrestr Tai SARTH Sir Ddinbych, trwy ffonio 01824 712911.

Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)

Cookie Settings