Yma yn Adra, rydym yn deall pa mor bwysig ydi’r tai sydd gennym i chi ac i ni. Mae’n
bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi a gwario ar y tai sydd gennym yn ogystal ag
adeiladu tai newydd o safon i gyfarch yr angen tai lleol.
Un ffordd yr ydym yn cyfarch hyn ydi drwy gynnal gwaith gwella allanol y tai a chynnal
gwaith mewn gwahanol ardaloedd yng Ngwynedd. Byddwn yn cynnal gwaith ar y tai yn y
lleoliadau canlynol yn fuan:
• Maes Padarn,
Llanberis
• Fflatiau Caernarfon
Road, Bangor
• Fflatiau Llanbeblig,
Caernarfon
• Amrywiol stadau yn
Aberdyfi a Bryncrug
• Ffordd Llywelyn,
Bermo
• Pensyflog,
Porthmadog
• Old Palace, Llanelwy
• Cilcoed/Penywern/
Coed Mawr, Bangor