Site search button

Busnesau yn dod at eu gilydd i adfywio gerddi Hospis Dewi Sant

Mae Hospis Dewi Sants ym Mangor wedi cael ei drawsnewid yn ddiweddar. Ond roeddent angen bach mwy o help i drawsnewid eu gerddi. Rydym ni a nifer o fusnesau lleol eraill wedi dod at ein gilydd i greu man diogel, y tu allan i bobl sy’n defnyddio’r Hospis a’u teuluoedd gael ei ddefnyddio.

Fel dachi’n gweld o’r lluniau, efo rhywfaint o waith caled a bôn braich mae’r ardal wedi cael ei thrawsnewid.

Felly beth yn union sydd wedi digwydd yma?

Wel, i gychwyn arni aeth Evans Tree and Garden Services a Acorn Garden Services draw i strimio, torri coed a torri’r gwair. Yna daeth y criw gwych o bobl yma at eu gilydd a gweithio’n galed wrth baentio, chwynu a phlannu blodau:

• 5 aelod o staff Adra
• 2 PSCO
• Aelod o staff o Hospis Dewi Sant
• 4 gwirfoddolwyr o Hospis Dewi Sant
• Aelod o staff o Evans Tree Services
• Aelodau o staff Cybi Cyf.

Ar ben hyn, mae’r busnesau yma wedi rhoi nwyddau i ni allu cwblhau’r gwaith:

• Compost wedi ei wneud o fwyd wedi ei ail-gylchu gan Cyngor Gwynedd
• Blodau gan Wild Elements
• Paneli ffens gan Cybi Cyf.
• Dwy fainc a phaent gan Adra

Mae’r Hospis yn darparu Gwasanaeth amhrisiadwy yn ystod amseroedd anodd ofnadwy i bobl yn ein cymunedau, rydym yn ofnadwy o falch ein bod wedi gallu chwarae rhan bychan yn hyn a chreu ardal i ymlacio yn yr awyr agored yno.

 

Cookie Settings