Mae misoedd y gaeaf yn annymunol i bawb, ond i’ch cymdogion bregus gall olygu mwy na dim ond gorfod dadmer y car a throi’r gwres i fyny ychydig.
Gall pobl bregus gael trafferth mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod misoedd y gaeaf; maent yn fwy agored i salwch a gallent ei chael yn anodd dilyn eu trefn ddyddiol os oes rhew neu eira ar lawr.
Efallai nad ydyn nhw’n gallu paratoi pryd poeth eu hunain neu gadw’n gynnes oherwydd biliau gwresogi uchel neu ddiffyg symudedd.
Mae gofalu am yr aelodau bregus hynny o’n cymuned yn haws os ydym yn gwybod ychydig am y peryglon y gallent eu hwynebu, a sut y gallwn helpu. Y cam cyntaf yw dod i adnabod eich cymdogion bregus a chymryd sylw o’u harferion a’u ffordd o fyw.
- Ydyn nhw’n byw ar eu pen eu hunain?
- Cael llawer o ymwelwyr?
- Oes ganddyn nhw ofalwr sy’n dod draw?
- A oes ganddynt broblemau symudedd, neu a ydynt yn eithaf egnïol o hyd?
Bydd yr holl bethau hyn yn cyfrannu at ansawdd eu bywyd, a’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain heb unrhyw ymwelwyr sy’n methu mynd allan a allai fod angen eich cefnogaeth fwyaf yn ystod misoedd y gaeaf.