
Wyt ti isio bod yn rhan o drafodaeth am ddyfodol dy gymuned?
Hoffet ti weld dy ardal yn gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd?
Os felly beth am ymuno â Chynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd?
Mae’n bosib y bydd hyn o ddiddordeb!
Yn ystod y misoedd nesaf bydd GwyrddNi yn cynnal Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yn dy ardal di.
Ar ddiwedd y Cynulliadau bydd rhodd o £100 neu dalebau lleol gwerth £100 yr un i’r aelodau i ddiolch am eu hamser a’u hymroddiad.
Mae croeso i unrhyw un – does dim rhaid gwybod unrhyw beth am newid hinsawdd er mwyn dod. Beth am roi cynnig arni? Mae pobl sydd wedi bod mewn Cynulliadau tebyg wir wedi mwynhau’r profiad!
I fynegi diddordeb cer draw i www.gwyrddni.cymru/cymryd-rhan ac ella welwn ni chdi yno!