Ers i ni greu ein cyfrif Facebook dros 10 mlynedd yn ôl mae Facebook yn awr angen i ni ei ddileu oherwydd polisiau newydd ganddynt.
Ond peidiwch â phoeni, rydym wedi creu cyfrif facebook newydd sbon ble byddwn yn cyflwyno gwybodaeth, cyfleoedd, a’r newyddion diweddaraf o’ch cymunedau. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn @Adra Tai Cyf – ein cyfrif newydd. Ni fydd yr hen gyfrif yn bodoli o’r 5ed o Fai 2022. Dyma linc i’n cyfrif newydd i chi gael hoffi’r dudalen a chadw fyny hefo’r wybodaeth ddiweddaraf: Cliciwch Yma
Diolch yn fawr i’r 6,000 ohonoch sydd wedi bod yn rhan o’n cymuned facebook am flynyddoedd. Edrych ymlaen at eich presenoldeb ar ein cyfrif newydd ac yn croesawu unrhyw aelodau newydd hefyd wrth gwrs.
Diolch gan bawb yma yn Adra