Site search button

Cwis a Choginio i ddathlu Diwrnod Crempog a Dydd Gŵyl Dewi

Roedd hi’n wythnos llawn gweithgareddau a dathlu i rai o’n cwsmeriaid yr wythnos hon wrth i Ddiwrnod Crempogau a Dydd Gŵyl Dewi ddisgyn ar yr un diwrnod.

Dyma beth aeth ymlaen yn rhai o’n cymunedau yr wythnos yma.

Fe gafodd ein cwsmeriaid yng Nghysgod y Coleg de prynhawn Dydd Gŵyl Dewi ac roedd rhai o’n cwsmeriaid wedi pobi eu cacennau eu hunain, gan gynnwys cacenni sbwnj, cacenni te a bara brith. Roedd y cacenni yn neis iawn yn ôl y sôn!

Fe gafodd ein cwsmeriaid eraill yn ardal Arfon gyfle i gymryd rhan mewn Cwis Dydd Gŵyl Dewi ar y diwrnod. Llongyfarchiadau i David am ennill y cwis! Rydym ar ddeall ei fod yn edrych ymlaen at fwyta ei gacen gri wrth yfed paned o de Cymreig. Mae David yn mwynhau cwis ac yn dalentog iawn mewn cwis!

Fe gafodd ein cwsmeriaid eraill weithgaredd coginio a bwyta crempogau a chwis, dyna gyfuniad da!

Rydym mor falch o weld bod ein cwsmeriaid wedi cael mwynhau’r diwrnod a dathlu.

Gwnewch y pethau bychain.

Cookie Settings