Site search button

Cwis cymunedol i drigolion Caernarfon

Daeth nifer o denantiaid Tai Cefnogol Adra at ei gilydd i’r Eagles yng Nghaernarfon i gael Cwis Cymunedol, raffl a lluniaeth yn ddiweddar.  

 Cafodd y digwyddiad ei drefnu yn dilyn llwyddiant a mwynhad tenantiaid yn y Cwis Dydd Gŵyl Dewi yn gynharach eleni.  

 Roedd y cwis wedi ei rannu i wahanol feysydd fel gwybodaeth gyffredinol,  cwestiynau chwaraeon, “enwa’r gân”, a llawer mwy!   

Trefnodd staff Adra fws i ddod â rhai o denantiaid yr ardal i dref Caernarfon i gael bod yn rhan o’r cwis. Cysylltodd staff Adra hefo busnesau lleol a gyfrannodd at y digwyddiad drwy baratoi brechdanau a chyfrannu tuag at rhai o wobrau’r raffl. Hoffai Adra ddiolch yn fawr i’r cwmnïau hynny fel Cegin Fach, Caffi Cei, Ainsworth, y siop pysgod a sglodion lleol.  

 Roedd y tenantiaid wedi mwynhau’n fawr. Dywedodd un o’n tenantiaid:  

 “Roedd yn grêt cael y cyfle i gyfarfod pobl newydd, cael adloniant, cwmni a chroeso cynnes. Roedd y bwyd a’r coffi yn neis iawn hefyd, cefais lawer o hwyl.”  

 Roedden ni yn Adra’n credu ei fod yn ddiddorol iawn bod un o’n tenantiaid, Dave, a enillodd y cwis Dydd Gŵyl Dewi, yn aelod o’r tîm enillodd y tro yma hefyd!   

Cookie Settings