Site search button

Cwrs Academi Adra – cyfle i chi ddatblygu sgiliau gwaith

Yn dilyn llwyddiant cwrs cyntaf Academi Adra fis Awst eleni, rydym yn falch o gynnig cyfle i chi gofrestru ar gyfer ein cwrs nesaf fydd yn cael ei gynnal diwedd Ionawr 2022. 

Rydym wedi cydweithio unwaith eto gyda Grŵp Llandrillo Menai a Procure Plus ar ddylunio cwrs fydd yn eich paratoi am yrfa yn y maes adeiladwaith neu gynnal a chadw. 

Mae’r cwrs yn cyfuno cyrsiau achrededig a phrofiad gwaith gyda Adra neu un o’n contractwyr. 

Mwy o wybodaeth a’r amserlen
 

dros 16 oed   Bydd lle i hyd at 12 person fanteisio ar y cyfle hwn. Bydd y cwrs AM DDIM a’r unig ofynion yw eich bod:  

  • ddim yn gweithio o fewn y maes adeiladwaith yn barod  
  • yn fodlon ymrwymo i deithio i fynychu yr hyfforddiant yn Mangor a phrofiad gwaith ar ein safleoedd. Byddwn yn ceisio trefnu safle profiad gwaith mor agos i’ch cartref ag sy’n ymarferol bosib.  

  Roedd diddordeb mawr ar gyfer y cwrs diwethaf, felly cysylltwch â nii cyn gynted a phosib os am geisio sicrhau eich lle ar y cwrs. 

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Charlotte Hogan yn y Tîm Cyswllt Cymunedol ar 0300 123 8084 neu cymunedol@adra.co.ukcyn dydd Gwener, 14 o Ionawr 2021 os gwelwch yn dda. Ewch amdani i gysylltu â ni!  

 

Cookie Settings