Mae’n bleser ganddom gyhoeddi bod cwrs Hyfforddiant Gwasanaethau Cwsmer newydd sbon ar gael trwy ein menter cyflogaeth a sgiliau, Academi Adra. Mae’r cwrs pythefnos, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth a’r Welsh Contact Centre Forum a Llywodraeth Cymru, yn rhad ag am ddim ac mae’n agored i unrhyw un dros 16 mlwydd oed sydd hefo’r gallu i gyfathrebu ar lafar yn y Gymraeg. Dyma fanylion y cwrs:
- Cychwyn ar ddydd Llun, 16eg o Ionawr, 2023
- Oriau – 9.30am – 3.30pm
- Lleoliad –Busnes@Llandrillo Menai, Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor LL57 4HJ
- Strwythur – 1 x wythnos o hyfforddiant gwasanaethau cwsmer ac 1 x wythnos o brofiad gwaith hefo’r tim Gwasanaethau Cwsmer yn Adra
** Yn ogystal, byddwn yn medru cynnig cyfweliad i bawb sy’n cwblhau’r cwrs, gan bod swyddi Hyfforddai Gwasanaethau Cwsmer ar gael o fewn Adra – felly mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n chwilio am gyflogaeth! **
Plis anfonwch eich manylion, ynghyd â CV diweddar draw at cymunedol@adra.co.uk erbyn dydd Mercher, 11 Ionawr, 2023.
Dim ond lle i 12 unigolyn sydd ar gael felly cysylltwch a ni cyn gynted â phosib.
Cafodd gwrs tebyg ei gynnal yn gynharach eleni, un ddaeth ar y cwrs oedd Kim.
Mae hi bellach yn gweithio gyda ni fel Swyddog Gwasanaeth Cwsmer. Mae hi wedi cael hyd yn oed mwy o hyfforddiant ers cychwyn gyda ni.
Allwch chi weld eich hyn yn gwneud rhywbeth tebyg? Gwnewch gais i ddod ar y cwrs i weld.
Gall agor gymaint o ddrysau i chi.