Rydym wedi creu cwrs newydd ym maes cynnal a chadw ac adeiladu, yn benodol i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid. Mae yna le i 12 o bobl ar y cwrs yma ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim.
Rydym wedi bod yn gweithio hefo ein partneriaid, Procure Plus, Busnes @ Llandrillo Menai i roi mwy o gyfleoedd i’n tenantiaid ennill cymwysterau newydd er mwyn i unigolion sy’n denantiaid i ni ennill profiad gwaith, sgiliau a chymwysterau i roi cyfle iddynt gael swydd ym maes cynnal a chadw ac adeiladu.
Y contractwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun hwn yw Wynne Construction, G H James, GMC a Williams Homes.
Y gofynion i’w hystyried i fynd ar y cwrs yw’r canlynol:
- bod yn denant i Adra, neu’n byw yn un o’n cartrefi
- dros 16 oed
- ddim eisoes yn gweithio mewn swydd adeiladu
- ymrwymo i deithio i fynychu’r hyfforddiant yn Llangefni a phrofiad gwaith ar ein safleoedd. Byddwn yn ceisio trefnu lleoliad profiad gwaith mor agos i’w gartref ag sy’n ymarferol bosibl.
I gofrestru eu diddordeb ar gyfer y cwrs, dylai tenantiaid gysylltu â Charlotte o Dîm Cynnwys y Gymuned Adra ar 0300 123 8084 neu cymunedol@adra.co.uk erbyn dydd Gwener, 13 Awst fan bellaf. Byddwn yn cynnig lle ar y cwrs ar sail y cyntaf i’r felin.
Manylion Ychwanegol
Pwrpas y cwrs fydd cyfuno cyrsiau achrededig a phrofiad gwaith ar gyfer eich cyflwyno i yrfa newydd yn y maes cynnal a chadw ac adeiladwaith.
Rydym wedi teilwra dau gwrs gwahanol ar eich cyfer chi:
Teitl y Cwrs | Cwrs Cynnal a Chadw | Cwrs contractio cyffredinol |
Cynnwys y cwrs a’r cymwysterau y byddwch yn eu hennill |
|
|
Pryd? | Wythnos 1 23/08/21- 27/08/21
Wythnos 2 31/08/21- 03/09/21 |
Wythnos 1 16/08/21- 20/08/21
Wythnos 2 23/08/21- 27/08/21 |
Lleoliad | Wythnos 1 Campws Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni
Wythnos 2 Gyda Tim Trwsio ar un o stadau tai Adra |
Wythnos 1 Campws Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni
Wythnos 2 Gyda contractwr ar safle gwaith Adra |