Site search button

Cwrs newydd i’n tenantiaid yn cyfuno cymwysterau a phrofiad gwaith

Rydym wedi creu cwrs newydd ym maes cynnal a chadw ac adeiladu, yn benodol i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid. Mae yna le i 12 o bobl ar y cwrs yma ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim.

Rydym wedi bod yn gweithio hefo ein partneriaid, Procure Plus, Busnes @ Llandrillo Menai i roi mwy o gyfleoedd i’n tenantiaid ennill cymwysterau newydd er mwyn i unigolion sy’n denantiaid i ni ennill profiad gwaith, sgiliau a chymwysterau i roi cyfle iddynt gael swydd ym maes cynnal a chadw ac adeiladu.

Y contractwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun hwn yw Wynne Construction, G H James, GMC a Williams Homes.

Y gofynion i’w hystyried i fynd ar y cwrs yw’r canlynol:

  1. bod yn denant i Adra, neu’n byw yn un o’n cartrefi
  1. dros 16 oed
  1. ddim eisoes yn gweithio mewn swydd adeiladu
  1. ymrwymo i deithio i fynychu’r hyfforddiant yn Llangefni a phrofiad gwaith ar ein safleoedd. Byddwn yn ceisio trefnu lleoliad profiad gwaith mor agos i’w gartref ag sy’n ymarferol bosibl.

I gofrestru eu diddordeb ar gyfer y cwrs, dylai tenantiaid gysylltu â Charlotte o Dîm Cynnwys y Gymuned Adra ar 0300 123 8084 neu cymunedol@adra.co.uk  erbyn dydd Gwener, 13 Awst fan bellaf. Byddwn yn cynnig lle ar y cwrs ar sail y cyntaf i’r felin.

Manylion Ychwanegol

Pwrpas y cwrs fydd cyfuno cyrsiau achrededig a phrofiad gwaith ar gyfer eich cyflwyno i yrfa newydd yn y maes cynnal a chadw ac adeiladwaith.  

Rydym wedi teilwra dau gwrs gwahanol ar eich cyfer chi: 

Teitl y Cwrs  Cwrs Cynnal a Chadw  Cwrs contractio cyffredinol 
Cynnwys y cwrs a’r cymwysterau y byddwch yn eu hennill 
  • Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch (CITB SSP 
  • Ymwybyddiaeth Asbestos   
  • Llif Dorri (‘abrasive wheels’) (NOCN) 
  • Codi a Chario 
  • Gweithio ar uchder ac ymwybyddiaeth harnais – (NOCN) 
  • Ymwybyddiaeth Amgylcheddol (IOSH) 
  • Tyrau Symudol PASMA  (PASMA) 

 

  • Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch (CITB SSP)  
  • Ymwybyddiaeth Asbestos (IOSH/IATP) 
  • Arwyddion, Golau a Diogelu  – (NOCN Streetworks) 
  • Marsial Cerbydau  (NOCN) 
  • Llif Dorri (‘abrasive wheels’) (NOCN) 

 

  • Ymwybyddiaeth Gweithio ar uchder ac ymwybyddiaeth harnes – (NOCN) 
  • Ymwybyddiaeth Amgylcheddol (IOSH) 

 

Pryd?  Wythnos 1 23/08/21- 27/08/21 

Wythnos 2 31/08/21- 03/09/21  

Wythnos 1 16/08/21- 20/08/21 

Wythnos 2 23/08/21- 27/08/21 

Lleoliad  Wythnos 1 Campws Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni 

Wythnos 2 Gyda Tim Trwsio ar un o stadau tai Adra 

Wythnos 1 Campws Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni 

Wythnos 2 Gyda contractwr ar safle gwaith Adra 

 

Cookie Settings