Site search button

Cyfarfod wyneb yn wyneb o’r diwedd!

Fel mae nifer ohonoch yn gwybod, pob blwyddyn rydym yn cynnal taith ymweliadau stâd. Mae’n gyfle i ni ymweld â chi, yn eich cartrefi a’ch cymunedau, i sgwrsio am eich profiadau, clywed eich barn am ein gwasanaethau a rhannu gwybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael gan Adra.  Y llynedd, yn anffodus oherwydd y pandemig, doedd hi ddim yn bosib mynd i’n stadau – ond eleni roedden ni’n hynod o falch o gael dychwelyd a gweld wynebau cyfarwydd a rhai newydd, a chael sgyrsiau a chadw mewn cysylltiad mewn ffordd ddiogel.

Un foment arbennig iawn yn ystod yr ymweliadau stâd oedd pan gafodd Charlotte, ein Swyddog Cyswllt Cymunedol, gwrdd â Mrs Pogson am y tro cyntaf wyneb yn wyneb.  

 Dywedodd Charlotte wrthym: “Yn ystod y pandemig, roeddem yn gwneud galwadau ffôn lles er mwyn sgwrsio â phobl oedd yn ynysig neu’n unig er mwyn cynnig cwmni. Hefyd er mwyn sicrhau bod ganddynt bopeth oeddent angen, fel presgripsiwn a siopa bwyd. Mi nes i   dod i adnabod Mrs Pogson drwy ein sgyrsiau lles dros y ffôn, ac yn ystod y daith stadau roeddwn wrth fy modd i gyfarfod hi am y tro cyntaf wyneb yn wyneb.   

“Roedd hi’n bleser dod i adnabod Mrs Pogson yn ystod ein sgyrsiau wythnosol yn ystod y Cyfnod Clo. Am sypreis neis oedd ei chyfarfod mewn person a chael rhoi wyneb i’r enw yn ystod ein taith stadau.” 

Cookie Settings