Site search button

Cyfle gwirfoddoli gyda Caru Cymru

Mae gwirfoddoli yn rhywbeth gwych i’w wneud i wella eich hyder, magu profiad a chreu cyfleoedd i gyfarfod pobl newydd.
Felly cymerwch fantais ar ymgyrch Caru Cymru o 16 Medi i 2 Hydref 2022.
Maent eisiau gwirfoddolwyr i helpu lanhau afonydd a traethau ar draws Cymru.

Mae traethau arbennig ac afonydd o gwmpas ein cymunedau ym mhob man, felly dyma gyfle gwych i fagu profiad a rhoi rhwybeth yn ôl i’ch ardal chi.

Mae eu neges yn syml – codwch gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch, mae pob eitem o sbwriwl sydd yn cael ei godi o’n traethau ac afonydd yn help.

Am fwy o wybodaeth ewch draw i wefan Glanhau Moroedd Cymru

Glanhau Moroedd Cymru 2022

Cookie Settings