Trefnodd Swyddog Tai Cefnogol Adra, Kathleen Hughes i denantiaid Llys Dewi Sant a Craig Menai gwrdd i ddathlu’r Nadolig mewn ffordd diogel a hwyliog.
Fe gafodd tenantiaid Adra sy’n byw mewn cartrefi cefnogol wrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd a chael sgwrs hefo’i gilydd dros de prynhawn. Darparodd caffi Bwyd Da Bangor bocsys te prynhawn fel lluniaeth a fe rhoddwyd nhw am ddim.
Dywedodd Sion Eifion, Swyddog Prosiectau Cymunedol:
“Diolch yn fawr i Caffi Bwyd Da Bangor am baratoi lluniaeth blasus ac am eu rhoi am ddim i’r digwyddiad bach Nadoligaidd yma fel arwydd o ewyllus da, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr.
“Rydym yn gweld gwerth mewn trefnu gweithgareddau cymunedol fel hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymdeithasu mewn ffordd diogel, er mwyn lleihau unigrwydd mewn cyfnod sy’n gallu bod yn anodd iawn ac yn unig iawn i lawer.”
(Cynhaliwyd y digwyddiad ar 16 Rhagfyr ac fe gafodd pob rheol covid-19 ei weithredu gan a’i gydymffurfio)