Site search button

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi

Staff from Claytons, Adra and local councillor Kim Jones giving an afternoon tea box to tenant outside his house i Llanberis

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur wythnos yma gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu o amgylch Dydd Gŵyl Dewi.

Bocsys Tê Bach

Un digwyddiad oedd rhannu bocys tê bach bendigedig gan Plas Coch, Llanberis a daffodils i drigolion Maes Padarn.
Mae’n bwysig fod ein cymunedau yn elwa o’n gwaith ni. Talodd Claytons am y bocys tê bach gan gwmni lleol Plas Coch fel rhan o’r gwaith yma.
Mae W.F.Claytons wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith allanol ar ein cartrefi yn Maes Padarn yn ddiweddar i wella cyflwr ac edrychiad y cartrefi.
Mae’r gwaith ym Maes Padarn yn cynnwys:

  • rhoi to newydd ar y tai
  • insiwleiddio a rendro waliau tu allan
  • gosod ffenestri newydd
  • gosod gwteri newydd
  • gwella llwybrau a ffensys a mwy.

Diolch i staffW.F. Claytons, staff o’n tîm asedau ni a’r Cynghorydd Lleol, Kim Jones am ddod gyda ni i ddosbarthu rhain.

Sesiwn Blasu Iaith

Roedd nifer o’n tenantiaid yn Llys Dewi Sant, Bangor yn awyddus i gael dysgu Cymraeg.
Felly ar y cyd gyda Menter Iaith Bangor mae sesiwn Blasu’r iaith a panad a cacan wedi ei drefnu i’r trigolion yno wythnos yma.

Taith Iaith Ysgolion

Rydym ni hefyd wedi bod ar daith o amgylch ysgolion uwchradd Gogledd Cymru yn ddiweddar gyda Ameer Davies -Rana i hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel rhan o
brosiect Un miliwn Llywodraeth Cymru ac i hyrwyddo y cyfleoedd gyrfa o fewn Adra.
Gwyliwch y fideo yma i weld lle aeth y daith

 

Afternoon Tea box from local company Plas Coch

Cookie Settings