Site search button

Dathlu penblwydd arbennig yn 100 oed

Pleser oedd ymweld â’n cwsmer, Glenys Williams o Tre Wen, Groeslon wrth iddi ddathlu ei phenblwydd arbennig yn 100 oed yr wythnos hon.

Mae Glenys Williams wedi bod yn gwsmer i ni ers 1972 ac wedi ei magu ac wedi aros yn ei chynefin yng Ngroeslon erioed.

Braf oedd cael diolch iddi am fod yn gwsmer gwych a chael nodi’r achlysur wrth roi cerdyn pen-blwydd a blodau gan bawb yn Adra. Diolch hefyd i Glenys Williams am y croeso cynnes i’n Swyddog Tai Cefnogol, Heather Smith, aeth i’w gweld i nodi’r diwrnod arbennig.

Penblwydd hapus iawn Glenys Williams, gan bawb yn Adra!

 

 

Cookie Settings