Site search button

Dau gyfle i ddau frawd

Mae rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ein cymunedau cael datblygu gyrfa yn bwysig iawn i ni. Mae cymaint o dalent lleol yma, mae’n bwysig ein bod yn gwneud y mwyaf ohono. 

Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cyfleoedd unigryw i ddau frawd o Lanrug yn ddiweddar. 

Un oedd Jac Thomas. Mae Jac wedi bod yn astudio cwrs gradd Meddalwedd Peirianyddol ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl a mae lleoliad gwaith 12 mis yn rhan o’i gwrs. Yn dilyn cyfweliad cafodd Jac ei dderbyn fel Hyfforddai Systemau Busnes TGCH gyda ni am flwyddyn. Mae wedi cael cyfle i weithio gyda ein tîm TGCH ni a chyfrannu at waith y cwmni yn ogystal  â datblygu ei sgiliau.

“Rwyf wedi dysgu gymaint o sgiliau defnyddiol dros y flwyddyn ddiwethaf, o sgiliau datblygu meddalwedd i fy sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Dwi methu aros i fynd nol i orffen fy nghwrs gradd a defnyddio yr holl bethau dwi wedi eu dysgu. Swni’n hoffi diolch i bawb yn Adra, yn enwedig y Tîm TGCH am eich holl help a chefnogaeth. Dwi wir yn gobeithio bydd cyfle i mi ddychwelyd i Adra rhyw ddiwrnod yn y dyfodol.” 

Diolch yn fawr i ti am dy gyfraniad i‘r busnes yn ystod dy gyfnod gyda ni Jac. 

Cyfleoedd trwy Academi Adra

Rydym yn gwmni gyda nifer o swyddi amrywiol, mae sawl llwybr gyrfa i‘w gael gyda ni, o waith cefnogi pobl i blymio. Tra fod Jac wedi cael profiad efo’n tîm TGCH yn datblygu a chynnal ein meddalwedd systemau busnes mae ei frawd Huw wedi cael profiad cwbl wahanol gyda ein Tîm Trwsio. 

Fe ymunodd Huw trwy gynllun Academi Adra i gefnogi unigolion i waith o fewn y byd adeiladu. Cafodd wneud cymwysterau fel cerdyn CSCS i fynd ar safle adeiladau a chyrsiau iechyd a diogelwch am weithio o uchder. Cyn mynd ymlaen i weithio gyda ein Tîm Trwsio ni. 

Mae dros 150 yn rhan o’n Tîm Trwsio ni a mae eu gwaith yn amrywio o drwsio problemau mewn cartrefi megis toliet wedi torri i ail wneud tai cyfan yn barod i‘w ail gosod. Cafodd Huw drosolwg o’r gwaith yma yn ystod ei gyfnod gyda ni. Cyn mynd ymlaen i gael pythefnos arall o brofiad trwy North Wales Training. 

“Diolch yn fawr i Academi Adra am y cyfle, mae wedi bod yn agoriad llygaid gweld y gwahanol swyddi sydd yna o fewn Trwsio. Mae llawer o opsiynau yn Adra i rhywun sydd efo trade pwy a wyr efallai fyddai’n gallu cael swydd yma rhyw ddiwrnod ar ôl gorffen yn y Coleg” 

Pob lwc i ti nol yn y Coleg Huw, gobeithio bydd y profiadau a chymwysterau ti wedi gael efo ni dros yr Haf yn fuddiol i chdi. 

Felly dyna hanes byr o ddau frawd wedi cael dau brofiad cwbl wahanol o fyd gwaith o fewn un cwmni. Mae meithrin talent ifanc fel Huw a Jac yn eithriadol o bwysig I’r ardal. Os hoffech chi gyfle tebyg – cadwch lygaid allan am gyfleoedd efo Academi Adra.  

Cookie Settings