Site search button

Diogelwch Tân beic a sgwters trydan

Mae beiciau trydanol (e-feic) a sgwteri trydanol (e-sgwter) yn dod yn fwy a fwy poblogaidd, a byddant yn sicr ar restr Nadolig nifer o’n tenantiaid ifanc eleni.

Ond ydych chi’n ymwybodol o’r peryglon gyda rhain?

Batris Lithiwm-ion sy’n gallu cael eu gwefru adra sydd yn pweru  y rhan fwyaf o’r rhain. Wrth wefru e-feiciau ac e-sgwteri, mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny’n ddiogel er mwyn osgoi perygl o dân yn cynnau a rhoi eich teuluoedd a’ch cartrefi mewn perygl.

Hyd yma does dim llawer o ddata yn ymwneud â thanau. Fodd bynnag, adroddodd Brigâd Dân Llundain fod 59 o danau wedi eu achosi gan e-feiciau ac e-sgwteri yn 2021. Ym mis Medi 2022 bu farw dyn,  a chafodd wyth o bobl eu cadw yn yr ysbyty yn dilyn tân a achoswyd gan feic trydan ym Mryste.

Ar adegau gall batris fethu’n drychinebus, gallant “ffrwydro” ac arwain at dân sy’n datblygu’n gyflym.

Mae’r e-sgwteri a beiciau yma yn gallu bod yn  berryg bywyd.

Cyngor Diogelwch Tân i denantiaid

• Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd yn dod gyda’r offer.
• Gwefrwch fatris pan fyddwch yn effro. Peidiwch â gadael batris i gwefru pan fyddwch chi’n cysgu
• Defnyddiwch y gwefrydd a gymeradwywyd gan y gwneuthurwr bob amser, os gwelwch unrhyw broblemau neu ddifrod prynwch wefryddiwr newydd swyddogol gan adwerthwr ag enw da.
• Roedd llawer o danau yn ymwneud â defnyddio nwyddau is-safonol neu ffug, eitemau nad ydynt yn bodloni Safonau Prydeinig neu Ewropeaidd – Prynwch eitemau cymeradwy dilys, gallai hyn arbed eich bywyd
• Peidiwch â storio na gwefru e-feiciau nac e-sgwter ar lwybrau dianc neu mewn ardaloedd cymunedol
• Peidiwch â storio na gwefru eich e-feic neu e-sgwter ger deunyddiau hylosg neu fflamadwy
• Os oes angen i chi gael gwared ar fatri sydd wedi’i ddifrodi, peidiwch â’i waredu yn eich gwastraff cartref neu ddeunydd ailgylchu arferol. Gwiriwch gyda’r awdurdod lleol i weld beth yw’r trefniadau ailgylchu batris ar gyfer eich ardal.

Mwynhewch a reidio eich e-feic neu e-sgwter yn ddiogel ac o fewn y gyfraith.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Gov.uk

Cookie Settings