Site search button

Diogelwch Tân: Beiciau a Sgwters Trydan

A row of electric scooters

Mae beiciau trydanol (e-feic) a sgwteri trydanol (e-sgwter) yn dod yn fwy a fwy poblogaidd.

Ond ydych chi’n ymwybodol o’r peryglon gyda rhain?

Batris Lithiwm-ion sy’n gallu cael eu gwefru adra sydd yn pweru y rhan fwyaf o’r rhain. Wrth wefru e-feiciau ac e-sgwteri, mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny’n ddiogel er mwyn osgoi perygl o dân yn cynnau a rhoi eich teuluoedd a’ch cartrefi mewn perygl.

Adroddodd gwasanaethau tân yn genedlaethol fod 102 o danau wedi eu hachosi gan e-feiciau ac e-sgwteri hyd at 20fed o Ebrill eleni. Yr wythnos diwethaf, bu farw mam a dau o blant mewn tân yng Nghaergrawnt a’r gred yw mai beic trydan oedd yn gwefru oedd achos y tân.

Diddifrod a choswyd gan dân e-feic

Ar adegau gall batris fethu’n drychinebus, a gallant “ffrwydro” ac arwain at dân sy’n lledaenu’n gyflym.

Gall e-feiciau a e-sgwteri hyn gael canlyniadau angheuol.

Cyngor Diogelwch Tân i denantiaid

  • Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd yn dod gyda’r offer.
  • Gwefrwch fatris pan fyddwch yn effro. Peidiwch â gadael batris i wefru pan fyddwch chi’n cysgu
  • Defnyddiwch y gwefrydd a gymeradwywyd gan y gwneuthurwr bob amser, os gwelwch unrhyw broblemau neu ddifrod prynwch wefryddiwr newydd swyddogol gan adwerthwr ag enw da.
  • Roedd llawer o danau yn ymwneud â defnyddio nwyddau is-safonol neu ffug, eitemau nad ydynt yn bodloni Safonau Prydeinig neu Ewropeaidd – Prynwch eitemau cymeradwy dilys, gallai hyn arbed eich bywyd
  • Peidiwch â storio na gwefru e-feiciau nac e-sgwter ar lwybrau dianc neu mewn ardaloedd cymunedol
  • Peidiwch â storio na gwefru eich e-feic neu e-sgwter ger deunyddiau hylosg neu fflamadwy
  • Os oes angen i chi gael gwared ar fatri sydd wedi’i ddifrodi, peidiwch â’i waredu yn eich gwastraff cartref neu ddeunydd ailgylchu arferol. Gwiriwch gyda’r awdurdod lleol i weld beth yw’r trefniadau ailgylchu batris ar gyfer eich ardal.

Mwynhewch a reidio eich e-feic neu e-sgwter yn ddiogel ac o fewn y gyfraith.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Gov.uk

Cookie Settings