Site search button

Dod â cymunedau at ei gilydd i ofalu am yr amgylchedd

Rydym wedi bod yn trefnu gweithgareddau i ofalu am yr amgylchedd yn stadau a chymunedau eu cwsmeriaid dros yr haf.
Daeth tîm ailgylchu Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru, Antur Waunfawr, Swyddog Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd a chynrychiolwyr o Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd i gyd i helpu a bod yn rhan o’r diwrnod amgylcheddol ym Maesgeirchen, Bangor.
Rydym wedi trefnu pump diwrnod amgylcheddol mewn pump lleoliad gwahanol yng Ngwynedd gan gynnwys stadau tai ym Mhwllheli, Caernarfon, Bangor, Blaenau Ffestiniog a Rachub.
Daeth nifer o’n cwsmeriaid i helpu ac i gael gwaredu gwastraff a nwyddau diangen o’u cartrefi. Cafodd y lleoliadau eu penodi gan ein Swyddogion Tai Cymunedol. Fel rhan o’r dydd, roedd sgipiau wedi eu lleoli ar draws y stadau er mwyn gwaredu gwastraff cymysg.

Dywedodd Elin Williams, ein Rheolwr Cymunedau a Phartneriaeth:
“Cawsom ddyddiau amgylcheddol llwyddianus iawn a braf gweld ein cwsmeriaid yn dod at ei gilydd fel cymuned i gefnogi ei gilydd. Gwych hefyd oedd gweld ein partneriaid yn rhan o’r dyddiau fel Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd ac Antur Waunfawr yn ogystal â Chynghorwyr. Diolch o galon i bawb oedd yn rhan o’r diwrnodau er mwyn sicrhau bod ni’n gofalu am ein cymunedau a’r amgylchedd i’w cadw yn llefydd braf a diogel I fyw yn ogystal â chadw at ein ymrwymiad amgylcheddol.”
Dywedodd Nigel Pickavance, Cynghorydd Maesgeirchen oedd yn rhan o’r dydd ym Maesgeirchen:
“Cawsom ddiwrnod gwych yma ym Maesgeirchen. Mae gennym dîm o bobl ifanc a gasglodd 20 bag o sbwriel. Diolch yn fawr i blant a phobl ifanc oedd yn rhan o’r diwrnod a diolch i Adra am gynnal y diwrnod.”
Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn rhan o’r diwrnod!
Cookie Settings