Site search button

Doris y bws melyn yn ymweld ar Hen Balas

Picture of Doris the yellow bus with residents

Bore dydd Mercher yr 28ain o Fehefin, fe ddaeth Doris y bws melyn i ymweld â thrigolion yr Hen Balas, yn Llanelwy.

Doris yw cerbyd allgymorth symudol Mind Dyffryn Clwyd, sydd yn mynd o amgylch Conwy a Sir Ddinbych yn ymweld â digwyddiadau amrywiol yng nghefn gwald a lleoliadau gwledig, gyda’r nod o gyrraedd rhannau na allai gwasanaethau eraill eu cyrraedd.

Mae Mind Dyffryn Clwyd yn elusen iechyd meddwl blaenllaw (sy’n gysylltiedig â Mind Cenedlaethol) sy’n ceisio darparu gwasanaethau cynaliadwy i gefnogi a gofalu am bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Pwrpas ymweliad Doris bore ma’ oedd dangos i’r trigolion beth mae Doris a Mind Dyffryn Clwyd yn ei wneud, sef darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ar draws Sir Ddinbych a Conwy ac esbonio am y cymorth sydd ar gael.

O hyn ymlaen, bydd Doris yn ymweld ar Hen Balas unwaith bob mis i gynnig cefnogaeth i’r tenantiaid os ydynt ei angen. Yn y bws mae hefyd ystafell gyfarfod fach lle gall pobl drafod materion yn gyfrinachol.

 

 

Cookie Settings