Site search button

Drysau Diogelwch – gwirio

O’r 6 Mehefin byddem yn gneud gwaith i wirio diogelwch Drysau Tân mewn nifer o’n eiddo 

Mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni, ac mae angen i ni sicrhau bod eich drws ffrynt yn ddiogel ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch tân cyfredol. 

Mae’n ofyniad cyfreithiol o dan Gorchymyn (Diogelwch Tân) Diwygio Rheoleiddio 2005 ei bod ni’n gwirio bod eich drws yn gweithio’n iawn ac mewn cyflwr da. 

Bydd un o’n staff yn galw draw i’ch cartref i wneud hyn a byddwn yn anfon atoch lythyr hefo apwyntiad. 

Dyma rai atebion i gwestiynau allai fod gennych: 

Pryd cawn wybod o apwyntiadau?  Bydd llythyrau yn cynnig apwyntiadauyn caeu eu hanfon o 6 Mehefin ymlaen. 
Pa waith fydd yn cael ei wneud?  Byddem yn cynnal arolwg o tua 2000 o ddrysau i sicrhau fod y rhannau mewnol ac allanol pob drws yn gweithio yn iawn, ac yn cwrdd â’r safonau diogelwch tân anghenrheidiol. 
Rwy’n byw mewn fyddech chi’n gwirio fy nrws i?  Dim ond drysau tân mewn fflatiau a drysau I gypyrddau gwasanaeth mewn ardaloedd sy’n cael eu rhannu, o fewn adeiladau, fyddem ni yn gwirio a gweithredu arnynt.
Be fydd y camau nesaf?  Os ydi’r archwiliad yn iawn, ni fyddwch yn cael ymweliad pellach tan flwyddyn nesaf.  Os ydi’r archwiliad yn anfoddhaol bydd un o ddau beth yn digwydd: 

  1. Bydd y drws yn cael ei drwsio NEU 
  1. Bydd drws newydd yn cael ei roi os nad oes posib trwsio’r hen un
Be ydi’r rheoliadau gwahanol i ddrysau tân?  Achos fod drysau tân yn eitemau gweithredol, ac yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau ac adeiladwaith, mae pob drws tân angen cwrdd â nifer o reoliadau gwahanol fel ar gyfer sŵn, hygyrchedd, awyru, effeithiolrwydd gwres a gwydr diogelwch yn ogystal â diogelwch tân. 
Cookie Settings