Pob blwyddyn byddwn yn cysylltu gyda tua 1400 o gwsmeriaid i ofyn eich barn am ein gwasanaethau. Dyma rannu crynodeb o’ch adborth ar gyfer y flwyddyn 2021/22.
Ar y cyfan, rydym yn falch o dderbyn adborth mor bositif am ein gwasanaethau. Ond da ni yn gwybod hefyd fod lle i ni barhau i wella. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn edrych ar siwrne’r cwsmer wrth ddefnyddio ein gwasanaethau amrywiol, ac yn adolygu terfynau amser i gwblhau gwaith trwsio yn eich cartrefi.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n cwsmeriaid i gynnal archwiliadau, gan gychwyn gyda’r gwasanaeth glanhau mewn ardaloedd cymunedol. Pwrpas yr archwiliad fydd i edrych ar y gwasanaeth fel ag y mae ar hyn o bryd, a gweld os oes lle i fedru gwella neu i wneud pethau yn wahanol.
Gwrando ar eich barn a gweithredu i wneud gwahaniaeth
Dywedodd Geraint Jones, ein Rheolwr Gwasanaethau Bro, am yr arolwg barn yma:
“Cawsom adborth gan gwsmeriaid nad oedden nhw’n teimlo ein bod yn cadw mewn cyswllt gyda nhw gyda nhw ddigon am ddatblygiad eu hachos ymddygiad gwrth gymdeithasol. I ymateb i hyn, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cysylltu gyda’r cwsmer o leiaf pob pythefnos i gynnig diweddariad ar eu hachos, os oes datblygiad wedi bod yn
yr achos neu beidio. Achos hyn mae boddhad ein cwsmeriaid am gadw mewn cysylltiad
ynglŷn a’u hachos wedi cynyddu o 68% i 93%”
Eich geiriau chi am ein gwasanaethau: