Site search button

Enfys Cricieth

Llŷr o Gricieth

Mae’r Enfys wedi dod yn symbol o obaith i ni gyd dros y misoedd diwethaf.

Ond mae un bachgen ifanc o Gricieth wedi mynd a’r ddelwedd un cam ymhellach. Cafodd Llŷr y syniad o gasglu cerrig i’w paentio yn ystod y clo cyntaf. Cyn cael syniad pellach o greu pont gerrig liwgar yn stad Ty’n Rhôs, Cricieth.

Mae trigolion ac adeiladwyr lleol wedi dod ynghyd i helpu dod a breuddwyd a delwedd Llŷr yn fyw.

A hithau yn ddiwrnod diolch i’r GIG pa ddiwrnod well i ddatgelu pont enfys Ty’n Rhos.

Mae wedi bod yn bleser cefnogi’r fenter yma gyda Cyngor Tref Cricieth a daeth criw Heno, S4C draw i ffilmio’r bont yn cael ei datgelu. Ysbryd cymunedol ar ei orau yng Nghricieth.

Diolch o galon i ti Llŷr am gael syniad arbennig ac am ddod a dy syniad yn fyw i bawb yn Gricieth.

Cricieth Heno yn ffilmio enfys cricieth

 

Cookie Settings