Site search button

Enillwyr Sêr Cymunedol 2021

Mae ein gwobrau Sêr Cymunedol yn ôl.

Diolch i chi gyd am eich enwebiadau, mae eleni wedi bod yn flwyddyn arbennig o ran y gwaith gwirfoddol mae rhai o’n tenantiaid wedi bod yn ei wneud a mae’n bleser gallu cydnabod rhywfaint o’r gwaith yma.

Felly dyma rhai o enillwyr eleni…

Mary Lou ac Aled Reese

Mary Lou ag Aled Ser Cymunedol

Cafodd y ddau eu henwebu am eu gwaith arbennig yng nghymuned Pwllheli yn ystod y pandemig. Gŵr a gwraig wedi ymddeol o Bwllheli ydy Mary Lou ag Aled, mae’r ddau wedi bod yn brysur iawn yn gwneud amryw o bethau i helpu yn y gymuned. Bu Mary Lou yn brysur iawn yn gwneud mygydau diogelwch ei hun ac yn rhoi ‘scrubs’ i’r ysbyty leol, tra mae Aled wedi bod yn helpu henoed y gymuned trwy dorri eu gwair a gwneud manion swyddi eraill i’w helpu.  Diolch yn fawr i chi am eich cyfraniad i’r gymuned leol.

 

Kevin Williams

kevin williams ser cymunedol

Enwebwyd Kevin am y gwaith bu yn ei wneud i lanhau a cynnal a chadw y safle lle oedd yn byw ym Mangor dros nifer o flynyddoedd.

Mae Kevin hefyd yn ceisio gwella edrychiad y safle trwy blannu blodau yn yr ardal gymunedol, tacluso’r ardal biniau gan ddidoli eitemau ailgylchu yn briodol. Diolch o galon i ti am dy waith gwirfoddol Kevin mae cael cymeriadau fel Kevin sy’n mynd y filltir ychwanegol yn ein cartrefi yn gwneud byd o wahaniaeth i’n cymunedau ni.

 

Carol Young, Samantha Young a Maria Mielczarski

Carol Young, Samantha Young a Maria Mielczarski ser cymunedol

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf bu Carol, Samantha a Maria yn hynod weithgar yn helpu cymdogion oedd yn gorfod “shieldio” trwy drefnu siopau ar-lein wythnosol ar eu cyfer o’r archfarchnad lleol. Yn ogystal maent wedi bod yn brysur yn trefnu i nol neges o’r siopau lleol fel papurau newydd, bara, llefrith ac ati.

Roedd yn ymgyrch enfawr ac wedi sicrhau bod nifer o’r trigolion oedd yn methu gwneud dros eu hunain ag heb deulu neu ffrindiau cyfagos, gyda cyflenwad rheolaidd o fwyd a diod a nwyddau angenrheidiol ac yn ddiogel yn eu cartrefi yn ystod y pandemig.

Diolch i’r dair ohonoch am wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau trigolion yr Hen Balas, Llanelwy.

 

Sandra Williams-Evans

Sandra Williams-Evans Ser Cymunedol

Sandra wedi cael ei henwebu am ei gwaith yn helpu ei chymdogion dros y flwyddyn diwethaf.

Er yn fam prysur, mae Sandra wedi bod yn helpu pobl hyn a bregus yn ei chymuned hyd at dri diwrnod yr wythnos dros y flwyddyn a hynny trwy nol presgripsiwn, siopau a gwneud neges. Diolch yn fawr i ti Sandra!

 

Fel da chi’n gweld mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig a cymaint o waith anhygoel wedi bod yn digwydd yn wirfoddol yn ein cymunedau ni.

Rydym yn edrych ymlaen i gyhoeddi mwy o enillwyr yn fuan.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu cael eu cydnabod fel Seren Gymunedol, ewch draw i’n gwefan i’w enwebu.

Enwebu rhywun i fod yn Seren Gymunedol

 

 

 

Cookie Settings