Site search button

Ffair Swyddi Rhithiol Trwsio

Yn ystod wythnos 10 Mai cafodd ein Ffair Trwsio Rhithiol ei gynnal. Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal Ffair Swyddi Trwsio.

Pwrpas y Ffair ydy i chi gael gwybod am yr holl gyfleoedd sydd gennym gyda Trwsio ar hyn o bryd. Eleni roeddem yn chwilio am :
• Prentisiaethau
• Goruchwyliwr y Gweithlu
• Peiriannyddion Gwresogi
• Trydanwyr
• Cyfaill Trydanwr
• Plymwyr Gas Safe
• Plymwyr
• Peintiwr ac Addurnwyr
• Labrwyr
• Töwyr
• Gweithiwyr Tir
• Plastrwyr
• Saeri

Mae’r Tim Trwsio yn tyfu yn sydun a rydym angen mwy a mwy o staff i helpu gyda cynlluniau Gwaith newydd.

Roedd yn wych gweld cymaint wedi ymuno yn y Ffair, mae eich enwau chi i gyd gennym bellach yn barod at pan fydd y Gwaith yma yn barod i ddechrau.

Roedd hefyd cyfle i ymuno a ni fel prentis yn rhan o’r Ffair. Dyma gyfle cyffrous iawn i ddysgu tra’n gweithio ac astudio yn y Coleg yr un pryd.
Rydym yn gobeithio bydd mwy o gyfloedd tebyg yn y dyfodol agos, cadwch lygaid ar dudalen Academi Adra am fwy o wybodaeth.

 

Cookie Settings