Site search button

Gwasanaeth Aros Adra yn ei ôl

Rydym mor falch fod ein gwasanaeth Aros Adra yn ei ôl yn dilyn y cyfnod clo.

Erbyn hyn rydym yn cynnig y gwasanaeth llawn yn ardal Dwyfor a Meirionnydd, sef:

  • mynd am dro
  • mynd i apwyntiadau
  • siopa ar ran cwsmeriaid
  • glanhau
  • cefnogaeth gyda gwaith papur

Mae Julie yn un cwsmer sydd wrth ei bodd fod y gwasnaeth wedi gallu ail gychwyn. Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd iddi a mai wedi methu cael mynd allan am ginio a chael sgwrs.
Wythnos yma cafodd Julie ymweliad i’r ganolfan arddio lleol a mae’n edrych ymlaen i gael mwy o ymweliadau dros yr Haf.

Bydd y gwasanaeth yn cyflogi mwy o bobl yn y dyfodol agos, wedyn bydd modd derbyn mwy o gwsmeriaid.

Ewch draw i’n gwefan os hoffech fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth Aros Adra. 

Cookie Settings