Mae hi yn hynod o bwysig ein bod yn gallu cael mynediad i’ch cartref er mwyn gwasanaethu’r boeler yn flynyddol.
Nid yn unig mae’n ofyniad cyfreithiol i ni fel landlord sicrhau bod yr holl foeleri yn ein heiddo yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol, mae er mwyn sicrhau eich diogelwch chi ac unrhyw un sy’n ymweld â’ch cartref.
Mae gwasanaethu blynyddol hefyd yn sicrhau bod y boeler yn gweithredu mor effeithlon â phosibl, sydd yn ei dro yn lleihau cost gwresogi’r cartref. Gall hefyd helpu i nodi a thrwsio unrhyw fân broblemau, a all atal problemau mwy yn y dyfodol.
Os ydych yn derbyn apwyntiad ar gyfer gwasanaethu’r boeler, ac nid yw’r dyddiad ar amser yn gyfleus, yna cysylltwch â ni i ail drefnu ar 0300 123 8084 neu gwresogi@adra.co.uk