Site search button

Gwobr £500 mewn cystadleuaeth cymunedol

Mae Iwan Jones (Warden Cymunedol) ac Arron Parry (Warden Safle) wedi bod yn brysur! Nol yn yr Hydref roedd y ddau wedi cyd-weithio hefo criw o bobl ifanc ym mhrosiect cymunedol Porthi Dre, Caernarfon ar ymgyrch ‘Op Bang’.

Yn y cyfnod yn arwain at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt 2023 fe ymunodd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru i lansio cystadleuaeth i bobl ifanc ledled gogledd Cymru. Erbyn hyn mae’r canlyniadau wedi eu cyhoeddi ac mae Porthi Dre wedi dod yn ail!

‘Second place went to Porthi Dre community group in Caernarfon who won £500. This group designed and printed posters for Trick or Treat. They then visited lots of homes in the area to offer their posters and to provide positive interaction from the young people with their community.’

Mae’r lluniau yma yn dweud y cyfan – da iawn pawb am eich gwaith caled!

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Cookie Settings